Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission
AC(4)2014(11)
Dyddiad: 17
Medi 2014
Amser:
12:30
Lleoliad: Swyddfa’r
Llywydd, Tŷ
Hywel
Yn bresennol:
Y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd
Peter Black AC
Sandy Mewies AC
Swyddogion yn bresennol:
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc
Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn
Nicola Callow, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 2)
Sulafa Thomas, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn
Eraill:
David Melding AC, y Dirprwy Lywydd
Ymddiheuriadau:
Angela Burns AC
Rhodri Glyn Thomas AC
1. Cyflwyniad y Cadeirydd
Ymddiheuriadau
Roedd Rhodri Glyn Thomas AC ac Angela Burns AC wedi anfon eu hymddiheuriadau.
Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
Cofnodion
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf.
2. Cyllideb ddrafft 2015-16
Roedd dogfen y gyllideb ddrafft, a ystyriwyd yn flaenorol yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf, wedi cael ei diweddaru. Fel y rhagwelwyd, mae rhagor o wybodaeth wedi’i chynnwys am y cynnydd yng nghost Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gyfer staff y Comisiwn, yn ôl y disgwyl, ac mae gwybodaeth am gyllid dangosol ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol wedi’i chynnwys hefyd. Cadarnhaodd Llywodraeth y DU ffigwr is na’r disgwyl ar gyfer cyfraniadau’r cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, sy’n dileu’r angen am gynnwys eitem eithriadol.
Ystyriodd y Comisiynwyr fod y gyllideb ddrafft yn unol ag anghenion y Comisiwn a disgwyliadau’r Pwyllgor Cyllid yn llwyr. Teimlodd y Comisiynwyr y bydd y Gyllideb yn darparu llwyfan cadarn ar gyfer y Pumed Cynulliad i weithio arno, ac mae’n adlewyrchu’r nodau a’r targedau strategol y cytunwyd arnynt eisoes. Cytunodd y Comisiynwyr ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16, a rhoddwyd cymeradwyaeth i osod y ddogfen ar 25 Medi 2014.
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y gyllideb ddrafft ar 2 Hydref.
3. Unrhyw fater arall
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 29 Medi. Bydd y Comisiynwyr yn canolbwyntio ar faterion perfformiad, pan fyddant yn trafod yr adroddiad Perfformiad Corfforaethol am y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, a chanlyniadau’r Arolwg Aelodau a’u staff cymorth.
Bydd Peter Black yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ar 23 Medi i roi tystiolaeth ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Medi 2014